#

Y Pwyllgor Deisebau | 25 Medi 2018
 Petitions Committee | 25 September 2018
 
 
 ,Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-830

Teitl y ddeiseb: Ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn yn amser llawn

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn, yn amser llawn a buddsoddi yn y ganolfan hon a ddefnyddir yn helaeth. Rydym yn galw ar y bwrdd iechyd i gynnal asesiad o anghenion cleifion yn Nwyrain Caerdydd yn sgil y datblygiadau tai diweddar.

 

Y cefndir

Agor am lai o oriau

Is-feddygfa Canolfan Feddygol Pontprennau yw Canolfan Feddygol Dewi Sant ym Mhentwyn, Caerdydd ac, yn ôl erthygl newyddion ar Wales Online ar 23 Mai 2018,  bydd Canolfan Feddygol Dewi Sant, sydd â 10,000 o gleifion cofrestredig, yn agor yn y bore’n unig yn y dyfodol oherwydd problemau staffio sylweddol.

Mae'r erthygl yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn yn cael ei gyhoeddi wrth i Gyngor Caerdydd gyhoeddi ei fwriad i sicrhau cynnydd o 13,000 ym mhoblogaeth gogledd Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf, fel rhan o’i Gynllun Datblygu Lleol Yn yr erthygl, dywedodd y Cynghorydd Joseph Carter, sy’n aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, y byddai’r  penderfyniad i leihau'r oriau yn cael effaith niweidiol ar y rhai sy’n byw yn ei etholaeth ym Mhentwyn. Mewn llythyr at y Cynghorydd Carter, dywedodd pennaeth gwasanaethau contractwyr gofal sylfaenol y Bwrdd Iechyd fod cynlluniau ar waith i ddatblygu Canolfan Feddygol Pontprennau, sy’n ganolfan fwy modern, i ddarparua ar gyfer 8,000 o gleifion ychwanegol.

Ar ôl cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, deellir bod y Bwrdd Iechyd wedi neilltuo arian i ehangu safle Pontprennau i ddarparu ar gyfer y rhai a fydd yn symud i fyw yn y tai newydd sy’n cael eu codi.

 

Cau’r is-feddygfa

Ar ôl lleihau oriau agor yr is-feddygfa, gwelwyd y cyhoeddiad a ganlyn ar wefan Canolfan Feddygol Pontprennau[1]:

Branch Surgery Update

We currently provide services for all our patients at 2 sites, the main surgery at Pontprennau Medical Centre and the branch surgery at St David’s Medical Centre.

The Practice have a number of concerns over the continued running of the branch surgery, including but not limited to the condition of the building, leasing arrangements and accessibility issues.

Due to these concerns, we have made the difficult decision to apply to close the branch surgery at St David Medical Centre.

We would like to assure you that a full range of services will continue to be available, to ALL our patients, from the main surgery at Pontprennau Medical Centre and hope that you all continue to access services from us. There will also be no reduction in the number of appointments available.

We have engaged with the Cardiff and Vale University Health Board and Cardiff and Vale of Glamorgan Community Health Council, and they wish to hear YOUR VIEWS on this proposal.

If you would like to comment on this application, please contact your CHC using the details below. Comments are required before Friday 24th August 2018.

Yn ogystal â’r wybodaeth uchod, nododd gwefan Canolfan Feddygol Pontprennau y cynhelir   cyfarfod i gleifion ar 18 Medi 2018 ac y bydd y tîm yn bresennol i drafod y sail resymegol dros gau Canolfan Feddygol Dewi Sant.  Gwahoddir pob claf i ddod i’r cyfarfod a byddent yn cael cyfle i ofyn cwestiynau. Bydd y cyfarfod yn cael ei hwyluso gan gynrychiolwyr Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a'r Fro.

 

Gohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb

Mae gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, dyddiedig 21 Awst 2018, yn tynnu sylw at y ffaith na all ef na’i swyddogion ymyrryd mewn perthynas â chau Canolfan Feddygol Dewi Sant gan mai mater cytundebol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Feddygol Pontprennau ydyw.

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod y brif feddygfa wedi gwneud cais ffurfiol i'r Bwrdd Iechyd i gau'r is-feddygfa, a chredir mai’r rheswm dros y penderfyniad yw cyflwr gwael adeilad Canolfan Dewi Sant a’r ffaith bod y les presennol gyda’r landlord yn dod i ben.  Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at y broses ffurfiol sydd ar waith i ystyried y cais i gau’r ganolfan ac y bydd cleifion yn cael cyfle i fynegi barn ar y cynllun arfaethedig mewn cyfarfod cyhoeddus sy'n cael ei drefnu gan y Cyngor Iechyd Cymunedol.

Mae'r ohebiaeth yn nodi bod cyllid grant sylweddol wedi'i sicrhau i ddatblygu safle prif feddygfa Pontprennau er mwyn darparu gofal ar gyfer cleifion ychwanegol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gofyn iddi sicrhau bod y materion a nodir yn cael sylw a’i bod yn ymateb yn uniongyrchol i'r deisebydd.

 

 

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Ni nodir dyddiadau ar gyfer diweddariadau ar y wefan.